Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 24 Chwefror 2020
Amser:
14.30 -
14.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5873
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Carwyn Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Rachael Davies (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, ac mewn perthynas â'r pwyntiau adrodd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd gwybodaeth gyflawn a chywir at ddibenion mynediad at ddeddfwriaeth.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, ac mewn perthynas â'r trydydd pwynt adrodd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd ac i dynnu sylw at oblygiadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad i dynnu sylw at faterion sy’n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i'w adroddiad a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o eglurder ynghylch y camau y bwriedir eu cymryd er mwyn cywiro'r gwallau a nodwyd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Arglwydd Kinnoull, a chytunodd i ymateb i gadarnhau ei fwriad i barhau i ymgysylltu â Phwyllgor yr Undeb Ewropeaidd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor gylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i faterion yn ymwneud â chyfiawnder, a chytunodd i wneud penderfyniad ynghylch penodi cynghorydd arbenigol yn y cyfarfod nesaf.
Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith craffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Filiau Amaethyddiaeth a Physgodfeydd Llywodraeth y DU.